Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 145:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.

15. Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;

16. Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â'th ewyllys da.

17. Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.

18. Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 145