Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 145:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd.

2. Beunydd y'th fendithiaf; a'th enw a folaf byth ac yn dragywydd.

3. Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a'i fawredd sydd anchwiliadwy.

4. Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.

5. Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a'th bethau rhyfedd, a draethaf.

6. Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.

7. Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a'th gyfiawnder a ddatganant.

8. Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.

9. Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a'i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.

10. Dy holl weithredoedd a'th glodforant, O Arglwydd; a'th saint a'th fendithiant.

11. Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid:

12. I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.

13. Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a'th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.

14. Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.

15. Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;

16. Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â'th ewyllys da.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 145