Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 115:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear.

16. Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a'r ddaear a roddes efe i feibion dynion.

17. Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na'r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.

18. Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 115