Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 109:10-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o'u hanghyfannedd leoedd.

11. Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.

12. Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.

13. Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf.

14. Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd; ac na ddileer pechod ei fam ef.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 109