Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 105:30-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.

31. Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.

32. Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.

33. Trawodd hefyd eu gwinwydd, a'u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

34. Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys, yn aneirif;

35. Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.

36. Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.

37. Ac a'u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.

38. Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.

39. Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.

40. Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a'u diwallodd â bara nefol.

41. Efe a holltodd y graig, a'r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.

42. Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was.

43. Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.

44. Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.

45. Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 105