Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 105:22-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid ef.

23. Aeth Israel hefyd i'r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.

24. Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a'u gwnaeth yn gryfach na'u gwrthwynebwyr.

25. Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â'i weision.

26. Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai.

27. Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.

28. Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.

29. Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod.

30. Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.

31. Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.

32. Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.

33. Trawodd hefyd eu gwinwydd, a'u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

34. Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys, yn aneirif;

35. Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.

36. Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.

37. Ac a'u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.

38. Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.

39. Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.

40. Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a'u diwallodd â bara nefol.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 105