Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 104:28-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.

29. Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i'w llwch.

30. Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.

31. Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.

32. Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â'r mynyddoedd, a hwy a fygant.

33. Canaf i'r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.

34. Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.

35. Darfydded y pechaduriaid o'r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 104