2. Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a'r byw a'i gesyd at ei galon.
3. Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon.
4. Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd.
5. Gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid.
6. Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain dan grochan. Dyma wagedd hefyd.
7. Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth, a rhodd a ddifetha y galon.
8. Gwell yw diweddiad peth na'i ddechreuad: gwell yw y dioddefgar o ysbryd na'r balch o ysbryd.
9. Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio: oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid.
10. Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.
11. Da yw doethineb gydag etifeddiaeth: ac o hynny y mae elw i'r rhai sydd yn gweled yr haul.
12. Canys cysgod yw doethineb, a chysgod yw arian: ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i'w pherchennog.
13. Edrych ar orchwyl Duw: canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe?