19. Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas.
20. Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha.
21. Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio.
22. Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon, ddarfod i ti dy hun felltithio eraill.
23. Hyn oll a brofais trwy ddoethineb: mi a ddywedais, Mi a fyddaf ddoeth; a hithau ymhell oddi wrthyf.
24. Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a'i caiff?
25. Mi a droais â'm calon i wybod, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb, sef ffolineb ac ynfydrwydd:
26. Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a'i dwylo yn rhwymau: y neb sydd dda gan Dduw, a waredir oddi wrthi hi; ond pechadur a ddelir ganddi.
27. Wele, hyn a gefais, medd y Pregethwr, wrth chwilio o'r naill beth i'r llall, i gael y rheswm;
28. Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano, ac ni chefais: un gŵr a gefais ymhlith mil; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais.