Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 1:6-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Y gwynt a â i'r deau, ac a amgylcha i'r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd.

7. Yr holl afonydd a redant i'r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o'r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith.

8. Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed.

9. Y peth a fu, a fydd; a'r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul.

10. A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o'n blaen ni.

11. Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.

12. Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem;

13. Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo.

14. Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.

15. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol.

16. Mi a ymddiddenais â'm calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o'm blaen i yn Jerwsalem; a'm calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth.

17. Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd.

18. Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a'r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 1