1. Baich gair yr Arglwydd yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd, fel yr eiddo holl lwythau Israel.
2. A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn.
3. A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd.
4. Wele, yr Arglwydd a'i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân.
5. Ascalon a'i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o'i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir.
6. Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid.
7. A mi a gymeraf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i'n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad.
8. A gwersyllaf o amgylch fy nhÅ· rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â'm llygaid.