4. A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua'r dwyrain a thua'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua'r gogledd, a'i hanner tua'r deau.
5. A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal: a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda: a daw yr Arglwydd fy Nuw, a'r holl saint gyda thi.
6. A'r dydd hwnnw y daw i ben, na byddo goleuni disglair, na thywyll:
7. Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr Arglwydd, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr.
8. A bydd y dwthwn hwnnw, y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, a'u hanner tua'r môr eithaf: haf a gaeaf y bydd hyn.
9. A'r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear: y dydd hwnnw y bydd un Arglwydd, a'i enw yn un.
10. Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon, o'r tu deau i Jerwsalem: hi a ddyrchefir, ac a gyfanheddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dŵr Hananeel hyd winwryfau y brenin.
11. Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd.
12. A hyn fydd y pla â'r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a'u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a'u tafod a dderfydd yn eu safn.
13. Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog, a'i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog.
14. A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn.