Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 4:3-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o'r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab.

4. A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Prŷn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i'w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a'i rhyddhaf.

5. Yna y dywedodd Boas, Y diwrnod y prynych di y maes o law Naomi, ti a'i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.

6. A'r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy etifeddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhau.

7. A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid, ac a'i rhoddai i'w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.

8. Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.

9. A dywedodd Boas wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a'r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 4