A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Prŷn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i'w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a'i rhyddhaf.