14. A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o'r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.
15. A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynnodd Boas i'w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni:
16. A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o'r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi.
17. Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch effa o haidd.
18. A hi a'i cymerth, ac a aeth i'r ddinas: a'i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon.
19. A dywedodd ei chwegr wrthi hi, Pa le y lloffaist heddiw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a'th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i'w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas.
20. A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr Arglwydd, yr hwn ni pheidiodd â'i garedigrwydd tua'r rhai byw a'r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gŵr hwnnw, o'n cyfathrach ni y mae efe.
21. A Ruth y Foabes a ddywedodd, Efe a ddywedodd hefyd wrthyf, Gyda'm llanciau i yr arhosi, nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i.
22. A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, Da yw, fy merch, i ti fyned gyda'i lancesi ef, fel na ruthront i'th erbyn mewn maes arall.
23. Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd gyda'i chwegr.