37. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
38. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
39. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
40. Un bwch geifr yn bech‐aberth:
41. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Selumiel mab Surisadai.
42. Ar y chweched dydd yr offrymodd Eliasaff mab Deuel, tywysog meibion Gad.
43. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
44. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
45. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
46. Un bwch geifr yn bech‐aberth:
47. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Eliasaff mab Deuel.
48. Ar y seithfed dydd yr offrymodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion Effraim.
49. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
50. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: