Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: