Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 6:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread, i ymneilltuo i'r Arglwydd:

3. Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion.

4. Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o'r dincod hyd y bilionen.

5. Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni'r dyddiau yr ymneilltuodd efe i'r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.

6. Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i'r Arglwydd, na ddeued at gorff marw.

7. Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nasareaeth ei Dduw ar ei ben ef.

8. Holl ddyddiau ei Nasareaeth,sanctaidd fydd efe i'r Arglwydd.

9. Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nasareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef.

10. Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

11. Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, a gwnaed gymod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.

12. A neilltued i'r Arglwydd ddyddiau ei Nasareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nasareaeth ef.

13. A dyma gyfraith y Nasaread: pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 6