Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 35:3-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A'r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt; a'u pentrefol feysydd fyddant i'w hanifeiliaid, ac i'w cyfoeth, ac i'w holl fwystfilod.

4. A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i'r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan, fil o gufyddau o amgylch.

5. A mesurwch o'r tu allan i'r ddinas, o du'r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thua'r deau ddwy fil o gufyddau, a thua'r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thua'r gogledd ddwy fil o gufyddau; a'r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd.

6. Ac o'r dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo'r llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg.

7. Yr holl ddinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a'u pentrefol feysydd.

8. A'r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: oddi ar yr aml eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin: pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i'r Lefiaid o'i ddinasoedd.

9. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

10. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan;

11. Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.

12. A'r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn.

13. Ac o'r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.

14. Tair dinas a roddwch o'r tu yma i'r Iorddonen, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.

15. I feibion Israel, ac i'r dieithr, ac i'r ymdeithydd a fyddo yn eu mysg, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo pob un a laddo ddyn mewn amryfusedd, ffoi yno.

16. Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

17. Ac os â charreg law, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, y trawodd ef, a'i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.

18. Neu os efe a'i trawodd ef â llawffon, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, a'i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 35