Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 35:17-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac os â charreg law, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, y trawodd ef, a'i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.

18. Neu os efe a'i trawodd ef â llawffon, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, a'i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

19. Dialydd y gwaed a ladd y llawruddiog pan gyfarfyddo ag ef, efe a'i lladd ef.

20. Ac os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl ato mewn bwriad, fel y byddo efe farw;

21. Neu ei daro ef â'i law, mewn galanastra, fel y byddo farw: lladder yn farw yr hwn a'i trawodd; llofrudd yw hwnnw: dialydd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef.

22. Ond os yn ddisymwth, heb alanastra, y gwthia efe ef, neu y teifl ato un offeryn yn ddifwriad;

23. Neu ei daro ef â charreg, y byddai efe farw o'i phlegid, heb ei weled ef; a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb geisio niwed iddo ef:

24. Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed, yn ôl y barnedigaethau hyn.

25. Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd o law dialydd y gwaed, a thröed y gynulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad, yr hwn a eneiniwyd â'r olew cysegredig.

26. Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi;

27. A'i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa, a lladd o ddialydd y gwaed y llofrudd; na rodder hawl gwaed yn ei erbyn:

28. Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo, hyd farwolaeth yr archoffeiriad ac wedi marwolaeth yr archoffeiriad dychweled y llofrudd i dir ei etifeddiaeth.

29. A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedig trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau.

30. Pwy bynnag a laddo ddyn, wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn, i beri iddo farw.

31. Hefyd, na chymerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.

32. Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tir, hyd farwolaeth yr offeiriad;

33. Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga'r tir: a'r tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond â gwaed yr hwn a'i tywalltodd.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 35