Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 31:2-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Dial feibion Israel ar y Midianiaid: wedi hynny ti a gesglir at dy bobl.

3. A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywedyd, Arfogwch ohonoch wŷr i'r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr Arglwydd ar Midian.

4. Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i'r rhyfel.

5. A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i'r rhyfel.

6. Ac anfonodd Moses hwynt i'r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i'r rhyfel, â dodrefn y cysegr, a'r utgyrn i utganu yn ei law.

7. A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses; ac a laddasant bob gwryw.

8. Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyda'u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pum brenin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â'r cleddyf.

9. Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a'u plant; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a'u holl dda hwynt, a'u holl olud hwynt.

10. Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a'u holl dyrau, a losgasant â thân.

11. A chymerasant yr holl ysbail, a'r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail.

12. Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a'r caffaeliad, a'r ysbail, i'r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

13. Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a aethant i'w cyfarfod hwynt o'r tu allan i'r gwersyll

14. A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chapteiniaid y cannoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel.

15. A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw?

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 31