10. Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a'u holl dyrau, a losgasant â thân.
11. A chymerasant yr holl ysbail, a'r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail.
12. Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a'r caffaeliad, a'r ysbail, i'r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
13. Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a aethant i'w cyfarfod hwynt o'r tu allan i'r gwersyll
14. A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chapteiniaid y cannoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel.
15. A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw?
16. Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor; a bu pla yng nghynulleidfa yr Arglwydd.
17. Am hynny lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gŵr, trwy orwedd gydag ef.
18. A phob plentyn o'r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi.
19. Ac arhoswch chwithau o'r tu allan i'r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a'r seithfed dydd, chwi a'ch carcharorion.
20. Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn croen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhewch chwi.
21. A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i'r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses:
22. Yn unig yr aur, a'r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a'r plwm;
23. Pob dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy'r tân, a glân fydd; ac eto efe a lanheir â'r dwfr neilltuaeth: a'r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig.
24. A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i'r gwersyll.
25. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
26. Cymer nifer yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau‐cenedl y gynulleidfa:
27. A rhanna'r caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i'r filwriaeth, a'r holl gynulleidfa.
28. A chyfod deyrnged i'r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i'r filwriaeth; un enaid o bob pum cant o'r dynion, ac o'r eidionau, ac o'r asynnod, ac o'r defaid.