Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 18:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a'th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a'th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.

2. A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i'th wasanaethu: tithau a'th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth.

3. A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd.

4. Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch.

5. Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.

6. Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i'r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

7. Tithau a'th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i'r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a'r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.

8. A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i'th feibion, trwy ddeddf dragwyddol.

9. Hyn fydd i ti o'r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o'r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl fwyd‐offrwm, a'u holl aberthau dros bechod, a'u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i'th feibion.

10. O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a'i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti.

11. Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono.

12. Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a'r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i'r Arglwydd, a roddais i ti.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 18