39. A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, â'r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid; ac estynnwyd hwynt yn gaead i'r allor:
40. Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesao gŵr dieithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl‐darth gerbron yr Arglwydd; ac na byddo fel Cora a'i gynulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.
41. A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd.
42. A bu, wedi ymgasglu o'r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych ohonynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.
43. Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.
44. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
45. Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a'u difâf hwynt yn ddisymwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.
46. Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl‐darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd; dechreuodd y pla.
47. A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynulleidfa ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl‐darth, ac a wnaeth gymod dros y bobl.
48. Ac efe a safodd rhwng y meirw a'r byw; a'r pla a ataliwyd.
49. A'r rhai a fuant feirw o'r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora.
50. A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a'r pla a ataliwyd.