27. Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a'u meibion, a'u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.
28. A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a'm hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o'm meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.
29. Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a'm hanfonodd i.
30. Ond os yr Arglwydd a wna newyddbeth, fel yr agoro'r ddaear ei safn, a'u llyncu hwynt, a'r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o'r gwŷr hyn yr Arglwydd.
31. A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o'r ddaear oedd danynt hwy.
32. Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a'u tai hefyd, a'r holl ddynion oedd gan Cora, a'u holl gyfoeth.
33. A hwynt, a'r rhai oll a'r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a'r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa.
34. A holl Israel, y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau.
35. Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a'r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.