20. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
21. Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon, a mi a'u difâf hwynt ar unwaith.
22. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa.
23. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.
24. Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram.
25. A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef.
26. Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o'r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.
27. Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a'u meibion, a'u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.
28. A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a'm hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o'm meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.
29. Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a'm hanfonodd i.
30. Ond os yr Arglwydd a wna newyddbeth, fel yr agoro'r ddaear ei safn, a'u llyncu hwynt, a'r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o'r gwŷr hyn yr Arglwydd.
31. A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o'r ddaear oedd danynt hwy.
32. Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a'u tai hefyd, a'r holl ddynion oedd gan Cora, a'u holl gyfoeth.
33. A hwynt, a'r rhai oll a'r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a'r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa.
34. A holl Israel, y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau.
35. Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a'r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.
36. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,