Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:16-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A dywedodd Moses wrth Cora, Bydd di a'th holl gynulleidfa gerbron yr Arglwydd, ti, a hwynt, ac Aaron, yfory.

17. A chymerwch bob un ei thuser, a rhoddwch arnynt arogl‐darth; a dyged pob un ei thuser gerbron yr Arglwydd, sef dau cant a deg a deugain o thuserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thuser.

18. A chymerasant bob un ei thuser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl‐darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac Aaron.

19. Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i'r holl gynulleidfa

20. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

21. Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon, a mi a'u difâf hwynt ar unwaith.

22. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa.

23. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.

24. Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram.

25. A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef.

26. Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o'r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.

27. Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a'u meibion, a'u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.

28. A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a'm hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o'm meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.

29. Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a'm hanfonodd i.

30. Ond os yr Arglwydd a wna newyddbeth, fel yr agoro'r ddaear ei safn, a'u llyncu hwynt, a'r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o'r gwŷr hyn yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16