25. (Ond y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i'r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.
26. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
27. Pa hyd y cyd‐ddygaf â'r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i'm herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i'm herbyn.
28. Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi.
29. Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a'ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn,
30. Diau ni ddeuwch chwi i'r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.
31. Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail,hwynt‐hwy a ddygaf i'r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi.
32. A'ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn.
33. A'ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch.
34. Yn ôl rhifedi'r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i.
35. Myfi yr Arglwydd a leferais, diau y gwnaf hyn i'r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i'm herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.
36. A'r dynion a anfonodd Moses i chwilio'r tir, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i'r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir;
37. Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i'r tir, a fuant feirw o'r pla, gerbron yr Arglwydd.