20. A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ôl dy air:
21. Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd.
22. Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a'm harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a'm temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais,
23. Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a'm digiasant, nis gwelant ef:
24. Ond fy ngwas Caleb, am fod ysbryd arall gydag ef, ac iddo fy nghyflawn ddilyn, dygaf ef i'r tir y daeth iddo: a'i had a'i hetifedda ef.
25. (Ond y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i'r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.
26. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
27. Pa hyd y cyd‐ddygaf â'r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i'm herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i'm herbyn.
28. Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi.
29. Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a'ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn,
30. Diau ni ddeuwch chwi i'r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.
31. Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail,hwynt‐hwy a ddygaf i'r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi.
32. A'ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn.
33. A'ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch.