1. Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a'r bobl a wylasant y nos honno.
2. A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a'r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft! neu, O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn!
3. A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i'r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a'n plant fyddant yn ysbail. Onid gwell i ni ddychwelyd i'r Aifft?
4. A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i'r Aifft.
5. Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel.
6. Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbiwyr y tir, a rwygasant eu dillad;
7. Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i'w chwilio, sydd dir da odiaeth.