20. A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A'r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin.
21. A hwy a aethant i fyny, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath.
22. Ac a aethant i fyny i'r deau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft.)
23. A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorasant oddi yno gangen ag un swp o rawnwin, ac a'i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o'r pomgranadau hefyd, ac o'r ffigys.
24. A'r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno.
25. A hwy a ddychwelasant o chwilio'r wlad ar ôl deugain niwrnod.
26. A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hôl air iddynt, ac i'r holl gynulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir.
27. A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i'r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef.
28. Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac.
29. Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau; a'r Hethiaid, a'r Jebusiaid, a'r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd‐dir; a'r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cherllaw yr Iorddonen.
30. A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i fyny, a pherchenogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi.