Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 13:12-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Dros lwyth Dan, Amiel mab Gemali.

13. Dros lwyth Aser, Sethur mab Michael.

14. Dros lwyth Nafftali, Nahbi mab Foffsi.

15. Dros lwyth Gad, Geuel mab Maci.

16. Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.

17. A Moses a'u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan; ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tua'r deau, a dringwch i'r mynydd.

18. Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a'r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt:

19. A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeydd;

20. A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A'r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin.

21. A hwy a aethant i fyny, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath.

22. Ac a aethant i fyny i'r deau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft.)

23. A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorasant oddi yno gangen ag un swp o rawnwin, ac a'i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o'r pomgranadau hefyd, ac o'r ffigys.

24. A'r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno.

25. A hwy a ddychwelasant o chwilio'r wlad ar ôl deugain niwrnod.

26. A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hôl air iddynt, ac i'r holl gynulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir.

27. A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i'r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 13