Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 11:18-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i'w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwytewch.

19. Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;

20. Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o'ch ffroenau, a'i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu'r Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd Paham y daethom allan o'r Aifft?

21. A dywedodd Moses, Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i'w fwyta fis o ddyddiau.

22. Ai y defaid a'r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt?

23. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, A gwtogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.

24. A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a'u gosododd hwynt o amgylch y babell.

25. Yna y disgynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o'r ysbryd oedd arno, ac a'i rhoddes i'r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai'r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent.

26. A dau o'r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o'r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i'r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 11