2. Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a'n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.
3. Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a'n gwinllannoedd, a'n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn.
4. Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a'n gwinllannoedd.
5. Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a'n merched yn weision, ac y mae rhai o'n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i'w rhyddhau; canys gan eraill y mae ein meysydd a'n gwinllannoedd hyn.
6. Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a'r geiriau hyn.
7. Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a'r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd. A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr.
8. Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i'r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb.