1. Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd, a'i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy a'i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel.
2. A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr Jericho. A cherllaw iddynt hwy yr adeiladodd Saccur mab Imri.
3. A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod; hwynt‐hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant ei ddorau, ei gloeau, a'i farrau.
4. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia, mab Cos. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia, mab Mesesabeel. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana.
5. A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd.
6. A Jehoiada mab Pasea, a Mesulam mab Besodeia, a gyweiriasant yr hen borth; hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant i fyny ei ddorau, a'i gloeau, a'i farrau.
7. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad, a Jadon y Meronothiad, gwŷr Gibeon a Mispa, hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i'r afon.
8. Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussiel mab Harhaia, o'r gofaint aur. Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia, mab un o'r apothecariaid: a hwy a gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan.
9. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Reffaia mab Hur, tywysog hanner rhan Jerwsalem.