Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 3:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd, a'i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy a'i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel.

2. A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr Jericho. A cherllaw iddynt hwy yr adeiladodd Saccur mab Imri.

3. A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod; hwynt‐hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant ei ddorau, ei gloeau, a'i farrau.

4. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia, mab Cos. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia, mab Mesesabeel. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana.

5. A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd.

6. A Jehoiada mab Pasea, a Mesulam mab Besodeia, a gyweiriasant yr hen borth; hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant i fyny ei ddorau, a'i gloeau, a'i farrau.

7. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad, a Jadon y Meronothiad, gwŷr Gibeon a Mispa, hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i'r afon.

8. Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussiel mab Harhaia, o'r gofaint aur. Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia, mab un o'r apothecariaid: a hwy a gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan.

9. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Reffaia mab Hur, tywysog hanner rhan Jerwsalem.

10. A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd Jedaia mab Harumaff, ar gyfer ei dŷ. A Hattus mab Hasabneia a gyweiriodd gerllaw iddo yntau.

11. Malcheia mab Harim, a Hasub mab Pahath‐Moab, a gyweiriasant ran arall, a thŵr y ffyrnau.

12. A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Salum mab Halohes, tywysog hanner rhan Jerwsalem, efe a'i ferched.

13. Porth y glyn a gyweiriodd Hanun, a thrigolion Sanoa; hwynt‐hwy a'i hadeiladasant ef, ac a osodasant ei ddorau ef, ei gloeau, a'i farrau, a mil o gufyddau ar y mur, hyd borth y dom.

14. Ond porth y dom a gyweiriodd Malcheia mab Rechab, tywysog rhan o Beth‐haccerem; efe a'i hadeiladodd, ac a osododd ei ddorau, ei gloeau, a'i farrau.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 3