Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 13:7-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ Dduw.

8. A bu ddrwg iawn gennyf; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o'r ystafell.

9. Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ Dduw, yr offrwm a'r thus.

10. Gwybûm hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a'r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bob un i'w faes.

11. Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ Dduw? A mi a'u cesglais hwynt ynghyd, ac a'u gosodais yn eu lle.

12. Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a'r gwin, a'r olew, i'r trysordai.

13. A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o'r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i'w brodyr.

14. Cofia fi, fy Nuw oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw, ac i'w wyliadwriaethau ef.

15. Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.

16. Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem.

17. Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi'r dydd Saboth?

18. Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein Duw ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi'r Saboth.

19. A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau'r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi'r Saboth: a mi a osodais rai o'm gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.

20. Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o'r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy.

21. A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i'ch erbyn. O'r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach.

22. A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio'r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.

23. Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau, Ammonesau, a Moabesau, yn wragedd iddynt:

24. A'u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o'r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl.

25. Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt: a mi a'u tyngais hwynt trwy Dduw, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i'w meibion hwynt, ac na chymerwch o'u merched hwynt i'ch meibion, nac i chwi eich hunain.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 13