Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 13:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ Dduw? A mi a'u cesglais hwynt ynghyd, ac a'u gosodais yn eu lle.

12. Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a'r gwin, a'r olew, i'r trysordai.

13. A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o'r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i'w brodyr.

14. Cofia fi, fy Nuw oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw, ac i'w wyliadwriaethau ef.

15. Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.

16. Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem.

17. Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi'r dydd Saboth?

18. Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein Duw ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi'r Saboth.

19. A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau'r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi'r Saboth: a mi a osodais rai o'm gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.

20. Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o'r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy.

21. A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i'ch erbyn. O'r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 13