1. Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu'r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na'r Moabiad ddyfod i gynulleidfa Duw yn dragywydd;
2. Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i'w melltithio hwynt: eto ein Duw ni a drodd y felltith yn fendith.
3. A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.
4. Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein Duw ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia:
5. Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o'r blaen yn rhoddi y bwyd‐offrymau, y thus, a'r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a'r olew, a orchmynasid eu rhoddi i'r Lefiaid, a'r cantorion, a'r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.
6. Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin;
7. Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ Dduw.
8. A bu ddrwg iawn gennyf; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o'r ystafell.
9. Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ Dduw, yr offrwm a'r thus.
10. Gwybûm hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a'r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bob un i'w faes.
11. Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ Dduw? A mi a'u cesglais hwynt ynghyd, ac a'u gosodais yn eu lle.
12. Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a'r gwin, a'r olew, i'r trysordai.
13. A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o'r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i'w brodyr.
14. Cofia fi, fy Nuw oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw, ac i'w wyliadwriaethau ef.
15. Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.
16. Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem.