21. Mesesabeel, Sadoc, Jadua,
22. Pelatia, Hanan, Anaia,
23. Hosea, Hananeia, Hasub,
24. Halohes, Pileha, Sobec,
25. Rehum, Hasabna, Maaseia,
26. Ac Ahïa, Hanan, Anan,
27. Maluch, Harim, Baana.
28. A'r rhan arall o'r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a'r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith Dduw, eu gwragedd hwynt, eu meibion, a'u merched, pawb a'r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo;
29. Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith Dduw, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas Duw: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr Arglwydd ein Harglwydd ni, a'i farnedigaethau, a'i ddeddfau:
30. Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i'n meibion ni:
31. Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i'w werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn, a chodi pob dyled.
32. A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein Duw ni,