Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 3:8-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn rhagfur, a'i mur o'r môr?

9. Ethiopia oedd ei chadernid, a'r Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti.

10. Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a'i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a'i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau.

11. Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.

12. Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt: os ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwytawr.

13. Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i'th elynion; tân a ysodd dy farrau.

14. Tyn i ti ddwfr i'r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i'r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen.

15. Yno y tân a'th ddifa, y cleddyf a'th dyr ymaith, efe a'th ysa di fel pryf y rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn.

16. Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith.

17. Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a'th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent.

18. Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a'th bendefigion a orweddant; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a'u casglo.

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 3