1. Gwae ddinas y gwaed! llawn celwydd ac ysbail ydyw i gyd, a'r ysglyfaeth heb ymado.
2. Bydd sŵn y ffrewyll, a sŵn cynnwrf olwynion, a'r march yn prancio, a'r cerbyd yn neidio.
3. Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw, a'i ddisglair waywffon; lliaws o laddedigion, ac aneirif o gelanedd; a heb ddiwedd ar y cyrff: tripiant wrth eu cyrff hwynt:
4. Oherwydd aml buteindra y butain deg, meistres swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra, a theuluoedd trwy ei swynion.
5. Wele fi i'th erbyn, medd Arglwydd y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth.
6. A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych.
7. A bydd i bawb a'th welo ffoi oddi wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefe, pwy a gwyna iddi? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti?
8. Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn rhagfur, a'i mur o'r môr?
9. Ethiopia oedd ei chadernid, a'r Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti.
10. Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a'i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a'i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau.
11. Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.
12. Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt: os ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwytawr.
13. Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i'th elynion; tân a ysodd dy farrau.
14. Tyn i ti ddwfr i'r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i'r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen.
15. Yno y tân a'th ddifa, y cleddyf a'th dyr ymaith, efe a'th ysa di fel pryf y rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn.
16. Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith.
17. Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a'th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent.
18. Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a'th bendefigion a orweddant; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a'u casglo.
19. Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy weli; pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat; oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?