Hen Destament

Testament Newydd

Micha 6:8-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw?

9. Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a'r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.

10. A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a'r mesur prin, peth sydd ffiaidd?

11. A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus?

12. Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 6