Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr Arglwydd; Cyfod, ymddadlau â'r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais.

2. Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr Arglwydd; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a'i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel.

3. Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y'th flinais? tystiolaetha i'm herbyn.

4. Canys mi a'th ddygais o dir yr Aifft, ac a'th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o'th flaen Moses, Aaron, a Miriam.

5. Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd.

6. Â pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid?

7. A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid?

8. Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw?

9. Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a'r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.

10. A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a'r mesur prin, peth sydd ffiaidd?

11. A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus?

12. Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.

13. A minnau hefyd a'th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau.

14. Ti a fwytei, ac ni'th ddigonir; a'th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a'r hyn a achubych, a roddaf i'r cleddyf.

15. Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.

16. Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y'th wnawn yn anghyfannedd, a'i thrigolion i'w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.