3. A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod.
4. A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.
5. A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.
6. A Moses a ddug Aaron a'i feibion, ac a'u golchodd hwynt â dwfr.
7. Ac efe a roddes amdano ef y bais, ac a'i gwregysodd ef â'r gwregys, ac a wisgodd y fantell amdano, ac a roddes yr effod amdano, ac a'i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod, ac a'i caeodd amdano ef.
8. Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a'r Thummim yn y ddwyfronneg.
9. Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai'r Arglwydd i Moses.
10. A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a'r hyn oll oedd ynddo; ac a'u cysegrodd hwynt.
11. Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a'i holl lestri, a'r noe hefyd a'i throed, i'w cysegru.
12. Ac efe a dywalltodd o olew'r eneiniad ar ben Aaron, ac a'i heneiniodd ef, i'w gysegru.
13. A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau amdanynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai'r Arglwydd wrth Moses.
14. Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a'i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod;
15. Ac efe a'i lladdodd: a Moses a gymerth y gwaed, ac a'i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â'i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a'i cysegrodd hi, i wneuthur cymod arni.
16. Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a'r ddwy aren a'u gwêr; a Moses a'i llosgodd ar yr allor.
17. A'r bustach, a'i groen, a'i gig, a'i fiswail, a losgodd efe mewn tân o'r tu allan i'r gwersyll: fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
18. Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm: ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd:
19. Ac efe a'i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.