19. Ac efe a'i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.
20. Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a'r gwêr.
21. Ond y perfedd a'r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor. Poethoffrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i'r Arglwydd; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses.
22. Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cysegriad: ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd.
23. Ac efe a'i lladdodd; a Moses a gymerodd o'i waed, ac a'i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.
24. Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o'r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.
25. Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a'r gloren, a'r holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a'r ddwy aren a'u braster, a'r ysgwyddog ddeau.
26. A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a'u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau:
27. Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a'u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.