1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Cymer Aaron a'i feibion gydag ef, a'r gwisgoedd, ac olew yr eneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw:
3. A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod.
4. A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.
5. A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.
6. A Moses a ddug Aaron a'i feibion, ac a'u golchodd hwynt â dwfr.
7. Ac efe a roddes amdano ef y bais, ac a'i gwregysodd ef â'r gwregys, ac a wisgodd y fantell amdano, ac a roddes yr effod amdano, ac a'i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod, ac a'i caeodd amdano ef.
8. Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a'r Thummim yn y ddwyfronneg.
9. Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai'r Arglwydd i Moses.
10. A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a'r hyn oll oedd ynddo; ac a'u cysegrodd hwynt.
11. Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a'i holl lestri, a'r noe hefyd a'i throed, i'w cysegru.