Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 4:13-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a'r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa, a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog:

14. Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod.

15. A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr Arglwydd, a lladdant y bustach gerbron yr Arglwydd.

16. A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod.

17. A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen.

18. A gosoded o'r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

19. A thynned ei holl wêr allan ohono, a llosged ar yr allor.

20. A gwnaed i'r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech‐aberth; felly gwnaed iddo: a'r offeiriad a wna gymod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt.

21. A dyged y bustach allan i'r tu allan i'r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa.

22. Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

23. Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith‐gwbl.

24. A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.

25. A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â'i fys, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm.

26. A llosged ei holl wêr ar yr allor, fel gwêr yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.

27. Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o'r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

28. Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i'w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe.

29. A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.

30. A chymered yr offeiriad o'i gwaed hi â'i fys, a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 4