1. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, a gwneuthur yn erbyn un ohonynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur:
3. Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pechod y bobl; offrymed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuanc perffaith‐gwbl, yn aberth dros bechod i'r Arglwydd.
4. A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach gerbron yr Arglwydd.
5. A chymered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod.
6. A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o'r gwaed gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahanlen y cysegr.
7. A gosoded yr offeiriad beth o'r gwaed gerbron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl‐darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
8. A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho; y weren fol, a'r holl wêr fyddo ar y perfedd;
9. A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â'r arennau;
10. Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm.
11. Ond croen y bustach, a'i holl gig, ynghyd â'i ben, a'i draed, a'i berfedd, a'i fiswail,
12. A'r holl fustach hefyd, a ddwg efe allan i'r tu allan i'r gwersyll, i le glân, wrth dywalltfa'r lludw; ac a'i llysg ar goed yn tân; wrth dywalltfa'r lludw y llosgir ef.
13. Ac os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a'r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa, a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog: