Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 3:3-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac offrymed o'r aberth hedd aberth tanllyd i'r Arglwydd; sef y weren fol, a'r holl wêr a fydd ar y perfedd;

4. A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a'r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â'r arennau.

5. A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â'r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

6. Ac os o'r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i'r Arglwydd, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl.

7. Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr Arglwydd.

8. A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch.

9. Ac offrymed o'r aberth hedd yn aberth tanllyd i'r Arglwydd; ei weren, a'r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â'r weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;

10. A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.

11. A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd i'r Arglwydd ydyw.

12. Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd.

13. A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.

14. Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i'r Arglwydd; sef y weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 3